**DYDDIADAU NEWYDD GWEITHDAI Y GWANWYN 2019 AR GAEL NAWR**
GWYBODAETH AR GYFER GWEITHDY PARATOI PYSGOD
A ydych yn ansicr ynghylch coginio a pharatoi pysgod? A ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth? Os felly, dyma’r dosbarth i chi. Mae’r cwrs paratoi pysgod newydd hwn yn gyflwyniad rhagorol i bysgod. Yn ein dosbarth byddwn yn defnyddio dewis eang o fwyd môr ffres a lleol (hyd y gallwn) a dangos i chi sut i’w baratoi o’r dechrau’n deg. Byddwn yn trafod tarddiant y pysgod, sut i brynu’r pysgod gorau a sut i’w coginio drwy eu stemio, ffrio mewn padell, grilio neu bobi.
Mae syniad ar led bod paratoi a choginio pysgod yn anodd. Ond, gyda rhywfaint o arweiniad, ymarfer ȃ chyllell dda, gellwch feistroli’r gelfyddyd o ffiledu pysgod a dysgu mwy am ddulliau gwahanol o goginio sy’n sicrhau bod eich pysgod yn parhau i fod yn llaith ac yn flasus. Crefft i’w dysgu yw ffiledu pysgod ac o’i meistroli bydd gennych sgil am oes i’ch galluogi i greu dysglau hyfryd o bysgod ffres.
Yn y dosbarth byddwn yn eich cyflwyno i gynaladwyedd pysgod. Byddwch yn dysgu am wahanol gategorϊau o bysgod a beth i chwilio amdano wrth brynu pysgod ffres. Byddwch yn mwynhau 4 sesiwn dwys o brofiad ymarferol dan arweiniad ein cogydd talentog Pawel a’r swyddog hyfforddi profiadol Rhiannon.
SGILIAU Y BYDDWCH YN EU DYSGU
Dewis pysgod o ansawdd da
Sgiliau ȃ chyllell
Dirberfeddu a glanhau pysgod
Ffiledu amrywiaeth o bysgod lleden
Blingo pysgod lleden
Ffiledu amrywiaeth o bysgod crwn
Gydol y dydd byddwch yn mwynhau bwydlen flasu o’r dysglau amrywiol y byddwn yn eu paratoi a’u coginio gyda’n gilydd. Yn ogystal ȃ thechnegau coginio sylfaenol, byddwn hefyd yn trafod rhai ryseitiau gwych.
Mae ein dosbarthiadau yn gyfuniad o waith ymarferol ac arddangos. Byddwn yn digennu, diberfeddu a glanhau pysgod (yn ôl eich dymuniad) yn ogystal ȃ pharatoi’r dysglau terfynol. Mae’r dosbarthiadau’n addas ar gyfer dechreuwyr a chogyddion canolradd sy’n awyddus i drin pysgod yn fwy hyderus. Cyfyngir pob cwrs i 6 o bobl er mwyn rhoi cyfle i bob un gymryd rhan.
Bydd pob dosbarth yn cynnwys te, coffi a chinio o bysgod ffres. Byddwn yn dechrau am 10.30am ac yn gorffen oddeutu 3.00pm. Fe gewch fynd ȃ’r pysgod a baratowyd gennych, ynghyd ȃ phecyn o ryseitiau, adref.
Byddwn yn darparu popeth sy’n angenrheidiol ar gyfer y gweithdy, ond os hoffech ddefnyddio eich cyllell bysgod eich hun mae croeso i chi wneud hynny. Dewch ȃ bag bwyd rhew hefyd.
GWEITHDAI
Lawr lwythwch y FFURFLEN GOFRESTRI yma
DYDDIADAU NEWYDD GWEITHDAI Y GWANWYN 2019
DYDDIADAU CYRSIAU 2019
Paratoi Pysgod (£95) LLAWN
Dydd Mercher 13 Mawrth 2019
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Paratoi Pysgod Lefel Uwch (£125) LLAWN
Dydd Mercher 20 Mawrth 2019
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
DYDDIADAU NEWYDD GWEITHDAI Y GAEAF 2019
Paratoi Pysgod (£95)
Dydd Mercher Tachwedd 6ed 2019
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Paratoi Pysgod Lefel Uwch (£125)
Dydd Iau Tachwedd 7ed 2019